Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 13 Mai 2019

Amser: 13.15 - 16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5452


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Vikki Howells AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Cerys Furlong, Chwarae Teg

Yr Athro Dylan Jones-Evans, Prifysgol De Cymru

Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr

Swyddfa Archwilio Cymru:

Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Mike Usher

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanne McCarthy (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan.  

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Nodwyd y papurau.

</AI2>

<AI3>

2.1   Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Ebrill 2019)

</AI3>

<AI4>

2.2   Caffael Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Ebrill 2019)

</AI4>

<AI5>

2.3   Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Llythyr gan Chwaraeon Cymru (8 Ebrill 2019)

</AI5>

<AI6>

3       Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar Gyfrifon 2017-18.

3.2 Cytunwyd y byddai materion yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn cael eu trafod fel rhan o'r gwaith o graffu ar Gyfrifon 2018-19 ac y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau.

</AI6>

<AI7>

4       Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau

4.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn gwybodaeth gefndirol yng nghwmni Cerys Furlong o Chwarae Teg, Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru cyn yr ymchwiliad ffurfiol i gymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau.

</AI7>

<AI8>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

6       Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI9>

<AI10>

7       Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd – Trafod yr adroddiad drafft

7.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost i'w chytuno ganddynt.

</AI10>

<AI11>

8       Rheoli Gwastraff: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru

8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiadau yr Archwilydd Cyffredinol ar reoli gwastraff, gan nodi'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn yn nhymor yr hydref.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>